ABOUT / AMDANAF
DATGANIAD ARTIST
Mae fy ngwaith celf yn seiliedig ar ddulliau paentio a darlunio ac yn ymwneud a themâu gofod darluniol, arsylwi a chyfryngiad technolegol. Hyd yn hyn, mae syniadau at weithiau celf wedi deillio o ddelweddau ffotograffig, delweddau camerâu gwyliadwraeth, dangosyddion sgrin gyffwrdd a sganiau digidol. Mae ystyried deunydd o’r fath yn cynnig ffordd i mi archwilio rhinweddau gweledol delweddau a chyfryngau cyfarwydd, yn ogystal â’u cyfuniad â bywyd bob dydd. Rwy’n paentio a darlunio mewn ffordd sy’n ysgogi agweddau o gyfryngau eraill. Gan ddewis creu delweddau o ffurfiau naturiol a dynol, mae diddordeb gen i yn y cydadwaith rhwng y byd naturiol a thechnolegol; rhwng profiad uniongyrchol a chyfryngol, a rhwng gwneuthuriad llaw a mecanyddol. Mae’r berthynas rhwng ffurf dau-ddimensiynol a thri-ddimensiynol yn nodwedd sy’n aml yn rhan o fy ngwaith, wedi’i amlygu drwy effaith dyfnder ar wyneb gwastad, a thrwy baentiadau a dyluniadau sy’n rannol gerfluniol. Mae ardaloedd o gynfas gwag, ochr tu cefn y papur, a’r gwagle rhwng y gwaith celf a’i wylwyr yn derbyn yr un ystyriaeth a’r elfennau sydd wedi’u paentio neu’u darlunio.
BYWGRAFFIAD
Yn wreiddiol o bentref Crai ym Mannau Brycheiniog, astudiodd Hannah yng Ngholeg Celf Abertawe gan ddewis arbenigo ar baentio a darlunio. Ar ôl graddio yn 2008, gweithiodd fel cynorthwyydd mewn stiwdio baentio am gyfnod cyn dychwelid i Abertawe i fyw, gweithio, ac astudio at raddau MA a MPhil. Enillodd ei gwaith wobr y Beep Painting Prize yn 2012 a’i ddethol ar gyfer rhesr-fer y Jerwood Drawing Prize yn 2014. Yn ddiweddar, cafodd ei gwaith celf ei gynnwys fel rhan o arddangosfeydd John Ruskin: The Power of Seeing, Two Temple Place, Llundain (2019), John Ruskin: Art & Wonder, Millennium Gallery, Sheffield (2019) a’r Royal Academy Summer Exhibition (2020; 2023).